Master_BBC_Logo_black copy
 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol

 

Ymchwiliad i Weithlu’r Diwydiannau Creadigol

 

 

 

Hydref 2022

Cyd-destun

Mae BBC Cymru Wales yn croesawu’r cyfle hwn i gyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, fel rhan o’i ymchwiliad i Weithlu’r Diwydiannau Creadigol.

Mae’r BBC yn rhan annatod o wead Cymru, ac yn cael ei ddefnyddi gan 90% o oedolion yng Nghymru bob wythnos. Nod y BBC yw hysbysu, addysg a diddanu ei holl gynulleidfaoedd a chynnig gwerth gwych i bawb. Yng Nghymru, mae’n gwneud hynny mewn dwy iaith. Mae’n seiliedig ar yr egwyddor bod pawb yn talu, yn rhannu’r costau, fel bod pawb yn cael rhaglenni a gwasanaethau gwych. Mae'r egwyddor hon o fod yn wasanaeth i bawb, o ddarparu gwasanaeth i bawb, yn golygu bod y BBC yn sefydliad cyfryngau sy’n cael ei lywio gan genhadaeth ac yn gaffaeliad mawr i Gymru ac i Brydain.

Yng Nghymru, mae cenhadaeth y BBC yn unigryw o bwysig wrth ddiffinio bywyd cenedlaethol. Dyma’r unig ddarlledwr cenedlaethol sy’n darparu amrywiaeth o gynnwys ar deledu, radio (BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales) ac ar-lein, yn Gymraeg a Saesneg. Daw’r cynnwys â’r genedl at ei gilydd, ac mae’n cynnwys newyddion, chwaraeon, adloniant ac addysg, yn ogystal â’r unig gerddorfa broffesiynol lawn yng Nghymru, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae elfen teledu Cymraeg ein cenhadaeth yn cael ei darparu mewn partneriaeth â S4C.  Nid yw llawer o swyddogaethau’r BBC yng Nghymru yn cael eu darparu o gwbl gan y farchnad fasnachol.

Mae’r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon diweddaraf yn dangos bod BBC Cymru yn cyflogi tua 876 o bobl mewn canolfannau ledled Cymru. Mae’r rhain cynnwys Caerdydd, Bangor, Wrecsam, Caerfyrddin, Aberystwyth ac Abertawe.

Mae’r niferoedd staff presennol wedi gostwng 60 o’r ffigwr blaenorol a adroddwyd yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020/21. Mae hyn yn unol â'r llwybr y mae’r BBC wedi’i gymryd i leihau’r niferoedd sy’n gweithio ar yr ochr ddarlledu cyhoeddus, i greu sefydliad mwy effeithlon.

Wrth ymateb i’r pandemig yn y flwyddyn flaenorol, oedwyd prosesau recriwtio ar gyfer rhai rolau nad oeddent yn hanfodol i’r busnes a dechreuwyd rhaglen o ddiswyddiadau gwirfoddol gyda'r bwriad o sicrhau arbedion yn gyflym yn wyneb yr her ariannol gynyddol. Creodd hyn gyfle i ail-lunio a symleiddio strwythur y BBC, a pharhaodd y strategaeth hon yn 2021/22.

Gweithiodd rhai aelodau staff a oedd yn hanfodol i ddarlledu o’n canolfannau darlledu drwy gydol y pandemig, ac rydym yn ddiolchgar iddyn nhw am eu hymroddiad a’u proffesiynoldeb drwy gydol y cyfnod anodd a heriol hwn. Mae staff nad ydynt yn gweithio ar ein allbwn byw wedi dychwelyd yn raddol i'r gweithle drwy weithio hybrid.

Cafodd y pandemig effaith sylweddol ar gynyrchiadau teledu yma yng Nghymru a ledled y DU, gan arwain at broses gynhyrchu arafach o lawer mewn rhai enghreifftiau. Gyda rhai, daeth y cynyrchiadau i stop yn gyfan gwbl.

 

Mae’r gystadleuaeth o fewn farchnad deledu’r DU wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y degawd diwethaf wrth i ddefnyddwyr gael mwy o ddewis nag erioed o’r blaen. Yn ogystal, mae apêl cynnwys a gynhyrchir yn y DU i gynulleidfaoedd byd-eang wedi cynyddu’r buddsoddiad yn sector cynhyrchu’r DU. Mae hyn wedi arwain at gynnydd sylweddol mewn costau cynhyrchu (‘chwyddiant mewnbwn’) oherwydd y gystadleuaeth am adnoddau cynhyrchu, yn enwedig mewn genres fel drama ym mhen uchaf y farchnad. Mae’r DU, yn benodol, yn wynebu chwyddiant mewnbwn sylweddol oherwydd y ‘bwlch sgiliau’ presennol, prinder gofod stiwdio a ffactorau eraill sy’n cyfyngu ar ba mor gyflym y gall capasiti cynhyrchu ehangu. Mae hyn wedi golygu bod chwyddiant y sector cynhyrchu wedi bod yn uwch na chwyddiant cyffredinol. Yn ogystal, bydd y gyfradd uwch o chwyddiant cyffredinol, sy’n cael ei lywio gan gostau ynni a chynnydd ym mhrisiau cynnyrch eraill, yn effeithio ar y sector cynhyrchu yn sgil y cynnydd mewn costau ac yn parhau i effeithio ar y sector ar ôl y pandemig, gan wthio’r costau ar gyfer comisiynwyr fel y BBC hyd yn oed yn uwch.

Nid yw pwysau costau yn unigryw i'r BBC. Yn ôl Arolwg Broadcast 2022 ar gyfer Cwmnïau Annibynnol, roedd y rhai a ymatebodd yn parhau i weld cyllidebau eu cynyrchiadau yn cael eu heffeithio gan Covid-19; dywedodd 92% o gwmnïau annibynnol fod eu costau’n uwch, rhwng 10% a 25% o’r hyn oeddent cyn y pandemig, er bod y cyfyngiadau ar ffilmio wedi’u llacio erbyn diwedd 2021. Roedd bron i hanner yr ymatebwyr yn dweud bod eu costau cynhyrchu yn uwch na 2020[1].

Cyllido

Er bod y Pwyllgor yn canolbwyntio ar y gweithlu yn yr ymchwiliad hwn, teimlwn ei fod yn bwysig rhoi cyd-destun i’r drafodaeth a’r ddadl ynglŷn â dyfodol cyllid cyfredol y BBC a model cyllido y dyfodol.

O ran y cyllid presennol, y man cychwyn yw bod y BBC wedi bod yn rheoli gostyngiad termau real o tua 30% yn ei incwm ers 2021. Yn ogystal, mae lefel Ffi’r Drwydded wedi’i rhewi yn 22/23 a 23/24. Byddai hyn yn heriol o dan unrhyw amgylchiadau, ond mae gorchwyddiant yn achosi mwy o bwysau, gan gynnwys bil cyflogau ychwanegol, ynni a chostau dosbarthu dan gontract.

Mae cyfuniad o’r materion hyn wedi creu amgylchedd ariannol eithriadol o anodd ac, ar hyn o bryd, rydym yn rhagweld y bydd yn arwain at amcangyfrif o £400m o ddiffyg ariannol i’r BBC erbyn diwedd cyfnod Ffi’r Drwydded presennol.

O fewn y BBC, mae hyn eisoes wedi arwain at benderfyniadau anodd iawn o ran yr hyn y gallwn ei ariannu. Mae’r BBC wedi cyhoeddi’n barod ei fwriad i roi’r gorau i nifer o raglenni a gwasanaethau.

O ran model cyllido’r dyfodol – dadl y mae’r BBC yn ei chroesawu – o gofio effaith y cyllid ar y sector creadigol. Mae’n bwysig bod yr holl opsiynau’n cael eu hystyried, gyda’r cyhoedd wrth wraidd y ddadl. Dylai unrhyw broses ennyn hyder y cyhoedd, y Senedd a Llywodraeth y DU a dylai fod yn seiliedig ar dystolaeth. Yn hytrach nag ateb cwestiynau’r presennol yn unig, dylai unrhyw fodel cyllido fod yn gynaliadwy hefyd oherwydd bydd y tirlun cyfryngau yn wahanol iawn yn y 2030au.

Gall y BBC, wrth gwrs, gael ei gyllido mewn gwahanol ffyrdd, ond gallai’r canlyniad arwain at BBC gwahanol iawn. Gall arwain at oblygiadau sylweddol i gynulleidfaoedd ac economi greadigol y DU. Fel rhan o’r ddadl hon, mae’n hanfodol deall beth mae cynulleidfaoedd ei eisiau ac yn ei ddisgwyl wrth y BBC yng Nghymru, yn y DU drwyddi draw, ac o ran lle’r DU yn y farchnad gyfryngau fyd eang. Ar hyn o bryd, y BBC yw’r unig sefydliad cyfryngau Prydeinig sy’n gweithredu ar raddfa fawr yn y DU, yn fyd eang, gyda chenhadaeth gyhoeddus yn greiddiol iddo.

 

Mae’r BBC wedi nodi pum egwyddor y dylai model ariannu eu bodloni er mwyn cefnogi'r BBC fel caffaeliad cenedlaethol a byd eang:

o   A yw’n cyflawni’r Genhadaeth? – darparu gwasanaeth cyhoeddus i bawb yn y DU, i hysbysu, addysgu a diddanu. Mae pawb yn defnyddio ac yn elwa o'n newyddion diduedd y gellir ymddiried ynddo, cynnwys Prydeinig o ansawdd a gwasanaethau addysg. 

o   A yw’n diogelu didueddrwydd ac annibyniaeth? – hyrwyddo democratiaeth rydd yn y DU ac yn fyd-eang. Gweithredu heb ofn na ffafriaeth i fuddiannau gwleidyddol neu fasnachol.

o   A yw’n darparu model ariannol cynaliadwy? – cefnogi’r BBC i arloesi a moderneiddio i ddiwallu anghenion cynulleidfaoedd newydd. Galluogi’r BBC i fod yn uchelgeisiol, gweithredu ar raddfa fawr mewn marchnad ddigidol fyd-eang. 

o   A yw’n helpu’r economi greadigol i dyfu? – galluogi’r BBC i fuddsoddi a gweithio mewn partneriaeth i dyfu diwydiannau creadigol y DU sydd gyda’r gorau’n y byd, datblygu talent o Brydain ac allforio cynnwys a gwasanaethau o Brydain yn fyd-eang. Creu brand cryf yn y DU sy’n cael ei werthfawrogi ar draws y byd.

o   A yw’n darparu gwerth teg i gynulleidfaoedd? – sicrhau system sy’n deg i’n cynulleidfaoedd, yn cynnig gwerth da yn erbyn y farchnad ac sy’n cael ei chefnogi’n eang.

Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae creu gweithlu amrywiol a chynhwysol yn flaenoriaeth i’r BBC yn ogystal â sicrhau bod ein cynnwys yn adlewyrchu’r gymdeithas a wasanaethwn. Er ein bod wedi gwneud cynnydd da yn y ddau faes, mae dal gwaith i'w wneud yn y maes hwn.

Drwy weithio gyda phartneriaid fel Cyswllt Diwylliant Cymru, Cynghrair Sgrin Cymru ac It’s My Shout, ein nod yw sicrhau ein bod yn bwrw ati i sicrhau ffrwd fwy amrywiol o dalentau ar gyfer BBC Cymru a’r diwydiant yn ehangach.

Mae ein gwaith o ymgysylltu â’r cyhoedd yn y maes hwn yn flaenoriaeth - o ran teithiau o’n canolfan ddarlledu yn y Sgwâr Canolog, ac yn benodol y gwaith rydym yn ei wneud gydag ysgolion ledled Cymru. Dros yr wythnosau diwethaf, cynhaliwyd prosiect ychwanegol gydag ysgolion. Prosiect sy’n dathlu canmlwyddiant y BBC yw Rhanna dy Stori, sy’n defnyddio ein staff a’n cyflwynwyr i ysbrydoli gweithlu’r dyfodol.

O ran cynhwysiant, mae gennym amrywiaeth o rwydweithiau staff sy’n cael eu cefnogi gan y busnes. Mae’r rhain yn cynnwys rhwydwaith anabledd, rhwydweithiau LHDTC+ a BAME a llawer mwy. Mae'r rhwydweithiau hyn yn cysylltu ac yn cefnogi staff ac yn cael eu rhedeg gan gydweithwyr sy'n fodelau rôl dros amrywiaeth a chynhwysiant. Yn ogystal ag awydd i sicrhau bod lleisiau eu haelodau’n cael eu clywed, maen nhw’n frwd dros annog dealltwriaeth ddyfnach o amrywiaeth a chynhwysiant ar draws y BBC. Mae’n nhw’n gaffaeliad enfawr i’n gweithle ac rydym hefyd yn eu helpu i weithio'n strategol ar ran staff yn ogystal â'n cynulleidfaoedd, ac mae ganddynt rôl hollbwysig yn llwyddiant y BBC yn y dyfodol.

Yn ogystal, rydym wedi penodi Rheolwr Portffolio yn ddiweddar i ganolbwyntio ar gynhwysiant yn BBC Cymru.

Mae BBC Cymru hefyd yn cynnig prentisiaethau ar hyd y flwyddyn. Fel rhan o’r broses o recriwtio prentisiaid, rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein timau adnoddau yn estyn allan i gymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n ddigonol ar draws Cymru. Ddechrau 2023, byddwn yn treialu hyfforddeiaethau anabledd ar ôl cydweithio’n agos gydag Anabledd Cymru.

 

Sgiliau a Hyfforddiant

Ar hyn o bryd, mae BBC Cymru yn gweithio’n agos gyda phartneriaid o fewn y diwydiant ar ddatblygu sgiliau a nodi meysydd lle ceir diffyg sgiliau neu hyfforddiant. Mae'r partneriaethau hyn o fewn y diwydiant yn cynnwys y Cynllun Carlam Ffeithiol yng Nghymru, a fydd yn lansio am y trydydd tro yn ystod yr wythnosau nesaf. Nod y cwrs datblygu hwn, sy’n cael ei drefnu mewn partneriaeth â Channel 4, S4C, Cymru Greadigol a chwmnïau cynhyrchu annibynnol ledled Cymru, yw meithrin y  genhedlaeth nesaf o arweinwyr ym maes cynhyrchu ffeithiol.

Cynllun Ffilm Cymru ar gyfer ffilmiau byrion yw prosiect Beacons, sy’n taflu goleuni ar dalentau o Gymru, cefnogi gwneuthurwyr ffilmiau newydd o Gymru i wneud eu marc, gyda chyllid, hyfforddiant a chyngor. Caiff ei gefnogi gan BBC Cymru Wales a Rhwydwaith y BFI gyda chyllid y Loteri Genedlaethol. O bortread dogfen o fywyd lleol i gomedi arswyd tywyll, mae’r prosiectau a gomisiynir drwy’r Beacons yn adlewyrchu amrywiaeth gyfoethog y talentau a’r straeon sydd gan Gymru i’w chynnig.

Mae BBC Cymru wedi bod yn cynnal Cynllun Cyfarwyddwyr Newydd ers 2017. Ar ôl nodi’r angen i roi cyfle i gyfarwyddwyr talentog, ar ddechrau eu gyrfaoedd, wneud eu rhaglen ddogfen ffurf-hir gyntaf, lansiwyd y cynllun lle mae’r pedwar ymgeisydd llwyddiannus yn cael cyfle i gynhyrchu rhaglen ddogfen hanner awr i BBC Cymru. Mae’r gwneuthurwyr ffilmiau newydd hefyd yn cael mynediad at gyfres o sesiynau mentora arbenigol a dosbarthiadau meistr gydag enwau blaenllaw yn y maes rhaglenni dogfen yng Nghymru a thu hwnt.

Mae’r Ysgol Ffilm a Theledu Genedlaethol (NFTS) wedi sefydlu hwb cenedlaethol newydd yng nghanolfan ddarlledu BBC Cymru yn y Sgwâr Canolog mewn partneriaeth â’r darlledwr a Cymru Greadigol. Yn dilyn llwyddiant canolfannau yn Glasgow a Leeds yn ogystal â’i brif safle yn Beaconsfield, mae NFTS Cymru yn canolbwyntio ei weithgaredd ar gefnogi’r rhai sydd newydd raddio i ddatblygu’r sgiliau lefel uwch sydd eu hangen naill ai i ddilyn astudiaethau ôl-raddedig neu i drosglwyddo'n llwyddiannus i’r diwydiannau creadigol.

Gyda chyllid Cymru Greadigol, mae'r ganolfan hyfforddi genedlaethol newydd yng Nghymru hefyd yn cefnogi talent newydd, yn ogystal â chryfhau datblygiad sgiliau. Mae BBC Cymru yn cydweithio’n agos gyda NFTS i weld lle mae’r bylchau o ran sgiliau ac i wneud y gorau o gyfleoedd hyfforddi.

Bob blwyddyn, mae BBC Cymru yn cynnig nifer o brentisiaethau ar draws y busnes, i gefnogi twf sgiliau yn y diwydiant ac yn ein gweithlu. Mae'r amrywiaeth o gynlluniau sydd ar gael wedi'u gwasgaru ar draws y busnes, o Newyddiaduraeth, Technoleg a Gweithrediadau, i Chwaraeon, Radio a Chynulleidfaoedd. Ein nod yw datblygu gweithlu medrus ac amrywiol tra'n cynnig profiad dysgu eithriadol i'n prentisiaid. Ar hyn o bryd, mae gennym 27 o brentisiaid ar draws nifer o adrannau o fewn BBC Cymru, sy'n cael hyfforddiant yn y gwaith yn ogystal â chyfleoedd dysgu gyda'n partneriaid addysgol yng Nghymru fel Sgil Cymru a Choleg Caerdydd a’r Fro. Mae ein portffolio prentisiaethau wedi’i dargedu i sicrhau ein bod yn adeiladu sylfaen sgiliau gynaliadwy yn ein gweithlu a’r diwydiant ehangach. Mae nifer o'n prentisiaid sy'n graddio yn sicrhau cyflogaeth hirdymor gyda BBC Cymru ar ddiwedd eu cynllun, ac mae eraill yn mynd ymlaen i weithio yn y sector creadigol ehangach yng Nghymru.

 

 

Cydweithio â Cymru Greadigol

Ym mis Medi 2021, llofnododd y BBC Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Cymru Greadigol. Roedd perthynas waith dda rhwng y ddau bartner cyn yr arwyddo ffurfiol ac mae'n parhau i ffynnu a thyfu. Mae Cymru Greadigol yn cynnig gwerth i’r BBC mewn sawl ffordd, gan gynnwys cyd-gyllido cynnwys, meithrin gallu yn y sector, buddsoddi mewn sgiliau a hyfforddiant, yn ogystal â defnyddio ei rôl genedlaethol o ddod â phobl at ei gilydd er lles y cyhoedd.

Mae’r bartneriaeth rhwng y BBC a Cymru Greadigol yn canolbwyntio ar gyflawni’r amcanion canlynol:

       Effaith greadigol – cynnwys portread o Gymru ar draws y DU ac yn fyd-eang mewn cynnwys a gomisiynir

       Effaith economaidd – tyfu ac uwch-sgilio sylfaen diwydiannau creadigol Cymru

       Sicrhau bod ein cynnwys yn cael ei gynhyrchu mewn ffordd sy’n adlewyrchu amrywiaeth Cymru  

       Cyfrannu at lwyddiant economaidd Cymru ar ôl COVID-19 ac mewn ffordd sy’n amgylcheddol ac yn gymdeithasol gyfrifol

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth sy’n cefnogi’r bartneriaeth yn amlinellur ymrwymiadau blynyddol o ran cynnwys a rhaglenni wrth y naill barti. Cyflawnwyd y rhain yn y flwyddyn gyntaf ac rydyn ni ar y trywydd iawn i’w cyflawni yn yr ail flwyddyn. Er enghraifft, cyfrannodd Cymru Greadigol gyllid tuag at ail gyfres The Pact, a fydd yn cael ei darlledu yn yr Hydref, yn ogystal ag ystod o gyfresi drama a rhaglenni ffeithiol eraill – gan gynnwys cyd-gomisiwn BBC Three a BBC Cymru, Hot Cakes.

Mae’r bartneriaeth yn mynd y tu hwnt i deledu. Chwaraeodd Cymru Greadigol rôl amlwg yng Ngŵyl 6 Music a ddaeth i Gaerdydd ym mis Ebrill. Maen nhw hefyd yn bartner allweddol yn yr Ŵyl Gomedi, a fydd yng Nghaerdydd am y deuddeg mis nesaf. Fel rhan o’r ŵyl, bydd cynllun partneriaeth, sy’n cael ei gyd-gyllido gan Cymru Greadigol, yn paru cwmni cynhyrchu annibynnol o Gymru sy’n dechrau arni gyda chyflenwr blaenllaw sy’n cynhyrchu comedi i’r BBC, er mwyn helpu i gryfhau a gwella cynyrchiadau comedi yng Nghymru.

 



[1] https://www.ofcom.org.uk/__data/assets/pdf_file/0016/242701/media-nations-report-2022.pdf, p.46